Croeso cynnes iawn i chi i Ysgol Glan Morfa. Ysgol Gymraeg benodedig yw Glan Morfa sy’n gwasanaethu tref Abergele a’r cyffiniau ar hyd glannau gogledd Cymru.
Agorwyd yr Ysgol ym 1957 gyda saith o ddisgyblion yn ei fynychu, ond bellach mae dros 250 o ddisgyblion yn dod trwy’i drysau, gyda mwy a mwy o rieni yn gweld budd a manteision addysg ddwyieithog.
Ein prif nod yw sicrhau fod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, a hynny i safon uchel. Ein nod hefyd yw sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’n gyflawn - yn addysgiadol, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn ysbrydol ac yn gorfforol - a hynny gyda gwen ar eu hwynebau a Chymraeg ar eu gwefusau.
Rydym yn hynod falch o safonau cyrhaeddiad uchel ein disgyblion ac yn falch o’r llwyddiannau maent yn ei brofi yn allgyrsiol mewn meysydd megis chwaraeon, cerdd, drama a chelf.
Gobeithiwn y cewch flas o fwrlwm yr ysgol.
Welcome to Ysgol Glan Morfa
We extend a warm welcome to you to Ysgol Glan Morfa. Ysgol Glan Morfa is a designated Welsh school which serves the town of Abergele and the surrounding area along the north Wales coast.
The school was opened in 1957 with seven pupils in attendance, but now, we have over 250 children coming through our doors, with more and more parents seeing the benefits and advantages of bilingual education.
Our main aim is to ensure our pupils are fully bilingual by the end of Key Stage 2, and that to a high standard. We also aim to develop the complete child – educationally, culturally, socially, spiritually and physically, and that with a smile on their faces and Welsh on their lips.
We are extremely proud of the high standard of attainment our pupils achieve and the success they gain in extracurricular activities in fields such as sport, music, drama and art.
We hope you gain a taste of the busy nature of our school.